Dywedodd Netty Lloyd, 49, un o drefnwyr y brotest: “Rydw i wedi byw yn Yr Wyddgrug ers 49 mlynedd. Mae angen i’n cymuned aros gyda’n gilydd, gofalu am ein gilydd, a chefnogi ein hunain yn gyntaf.”
Fodd bynnag, dywedodd un o’r gwrth-brotestwyr, Benjamin Lawrence Jones, ei fod eisiau dod i ddangos ei gefnogaeth i “bobl o gefndiroedd gwahanol”.
“Roedden ni’n sefyll ein tir, yn canu ein caneuon, ac yn sefyll dros yr hyn rydyn ni’n credu ynddo, sef y prif beth ar ddiwedd y dydd,” ychwanegodd.
Yn ddiweddar mae dwsinau o brotestiadau wedi’u cynnal ledled y DU ynghylch defnyddio gwestai ar gyfer lletya ceiswyr lloches.