Mae’n 80 mlynedd ers marwolaeth yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog ar Brydain, David Lloyd George.
Bu farw Lloyd George yn ei gartref yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy – sydd bellach yn ganolfan ysgrifennu – ar 26 Mawrth, 1945.
Ar 30 Mawrth 1945 sef Gwener y Groglith y flwyddyn honno, cynhaliwyd angladd Lloyd George yn Llanystumdwy, lle treuliodd ei blentyndodd a’i flynyddoedd olaf.
Casglodd cannoedd i wylio’r orymdaith a’r gladdedigaeth fawreddog – o Dŷ Newydd i’w fedd ar lannau Afon Dwyfor.
Amgueddfa Lloyd George sydd wedi rhannu lluniau o’r diwrnod hanesyddol gyda Cymru Fyw. Bydd yr amgueddfa’n ailagor ar 14 Ebrill.