Yn ystod y saith penwythnos cyntaf, gwelodd y gwasanaeth 845 o gleifion, y byddai tua 75% ohonynt fel arall wedi mynd i adran achosion brys, meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn datganiad.
Roedd y model gweithio saith diwrnod hefyd fod i hwyluso treial o fodel gofal Ward Digidol.
Dros ddeufis, cafodd 63 o gleifion eu “derbyn yn rhithiol” a derbyn gofal yn nes at eu cartrefi.
Mae asesiad ar y gweill ar hyn o bryd i ddeall effaith gweithredu’r gwasanaethau ar y penwythnosau.
Bydd y gwerthusiad hwn yn dechrau unwaith y bydd y treial tri mis wedi’i gwblhau.
Dywedodd John Evans, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion a Sir Benfro yn BIP Hywel Dda, fod yr oriau agor dros dro yma wedi rhoi cymorth “amhrisiadwy i’n cymuned”.
“Gan leihau’r straen ar adrannau damweiniau ac achosion brys, a chaniatáu i ni archwilio modelau gofal newydd.”