“Dwi’n ei alw fe y da, y drwg a’r diog,” meddai Mr Williams.
“Diogi yw peidio dod i ddeall beth ydy’r system hynod bwerus sy’ gyda ti.
“Y drwg ydy peidio medru gweld a chwistrellu dy hunaniaeth mewn i’r peth.
“Y da yw deall sut mae’r teclynnau yn gweithio a defnyddio nhw mewn ffordd effeithlon.”
Tra bod y rhai sy’n trio am swyddi yn troi at AI, mae cyflogwyr hefyd yn defnyddio’r dechnoleg i chwilio am y rhai diog, yn ôl Owen Williams.
“Maen nhw’n gallu defnyddio AI yn o gystal i chwilio am y cliches nodedig mae AI yn gwneud. Chi ddim yn saff… Mae pobl yn gallu gweld nage ti greodd y peth hwn.”