Mae canlyniad y bleidlais ymhlith aelodau’r UCU yn golygu ei bod hi’n debygol y bydd staff yn gweithredu yn ddiwydiannol, oni bai bod penaethiaid y sefydliad yn cytuno i ddiystyru diswyddiadau gorfodol.
Fe fydd staff yn cwrdd yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod y camau nesaf – gan gynnwys y posibilrwydd o streic.
Wedi’r cyfarfod hwnnw, fe fydd angen i staff roi pythefnos o rybudd i’r brifysgol cyn gweithredu.
Dywedodd llywydd yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Joey Whitfield fod canlyniad y bleidlais yn dangos fod staff “yn llwyr yn erbyn y toriadau creulon a diangen”.
Wrth ymateb, dywedodd Prifysgol Caerdydd y byddai gweithredu diwydiannol yn debygol o gael effaith ar fyfyrwyr, a’u bod am wneud popeth yn eu gallu i osgoi hynny.
“Mae’n bwysig nodi na fydd y gweithredu yma yn effeithio ar y brifysgol gyfan. Fe fydd y brifysgol yn parhau ar agor, a dyw addysgu, gwaith ymchwil na gwasanaethau yn debygol o gael eu heffeithio mewn sawl adran.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd ei bod hi’n “bwysig pwysleisio mai cynigion yn unig yw’r rhain” ac “nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud”.