Mae Aneurin Brown, prif weithredwr cwmni Hallmark Care Homes, sy’n rhedeg 23 o gartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr, yn dweud y bydd y newid yn hwb i ymddiriedaeth pobl.
“Dan ni’n meddwl ei bod e’n syniad da ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl sy’n prynu gofal,” meddai, gan ychwanegu “ac ry’n ni’n gweld falle ei bod e’n mynd i ddylanwadu ar safon gofal ar draws Cymru”.
“Fi’n meddwl bod e’n mynd i roi pwysau ar bobl sy’n rhedeg cartrefi gofal i wella safonau,” meddai.
“Mae pob un o’n cartrefi ni wedi graddio’n naill ai’n dda neu’n rhagorol, ond i gwmnïau eraill sydd falle ddim yn cyrraedd y safon mae hyn yn beth da i wella gofal.”