18.1 C
New York
Sunday, September 21, 2025

Buy now

spot_img

Cau rhannau o ganolfannau ymwelwyr CNC ‘yn ergyd i economïau lleol’


Dywedodd Mr Bragg ei fod wedi trafod gyda busnesau lleol eraill, a’i bod “yn amlwg” fod effaith y penderfyniad i gau’r cyfleusterau wedi cael effaith y tu hwnt i’r byd beicio”.

“Ges i sioc ar ôl holi aelod o fwrdd CNC mewn cyfarfod cyhoeddus ym mis Rhagfyr – doedden nhw heb gynnal asesiad effaith ehangach i ddeall beth fyddai’r goblygiadau i’r economi leol a’r gymuned fusnes.”

Fe gadarnhaodd CNC nad oeddent wedi cynnal asesiad economaidd, ond fod bwrdd CNC wedi cymeradwyo’r cynlluniau “ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r undebau llafur, eu haelodau, a staff”.

Dywedodd y llefarydd fod tîm arweinyddiaeth CNC wedi cynnal asesiad helaeth o’r risgiau ac effeithiau fel rhan o’r gwaith paratoi.

Ychwanegodd Mr Bragg ei fod wedi synnu o weld Llywodraeth Cymru yn “cefnogi” CNC ar “lwybr mor ddinistriol”.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru fod “pob sefydliad yn cael ei effeithio gan bwysau cyllidebol y sector cyhoeddus”.

“Roedd penderfyniad CNC i roi’r gorau i ddarparu gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn eu canolfannau ymwelwyr yn rhan o gynigion i sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y cyllidebau sydd ar gael,” medd llefarydd.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles