Fe wnaeth Cornwall Insight wneud ymchwil ar sut y bydd cwmnïau yn cael eu heffeithio gan y gwahaniaeth o fewn taliadau ar draws y DU.
Dywedodd Dr Craig Lowrey, Prif ymgynghorydd Cornwall Insight: “Mae’r rhagolygon yma yn nodi gwahaniaethu rhanbarthol mewn costau ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Mae’r taliadau trydydd parti y mae’r rhai mewn rhanbarthau penodol yn eu hwynebu ond yn tynnu sylw at y problemau a wynebir gan y busnesau hynny – busnesau sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.
Dywedodd Mike Jones: “Byddech yn edrych ar yr un sy’n cystadlu yn eich erbyn ac yn meddwl: ‘Pwy sy’n mynd i fynd yn gyntaf?’ Os yw’r cwmni yna yn mynd gyntaf byddech yn cymryd eu gwaith.
“Yna rydych yn cael mwy o gostau ynni. Mae’n rhaid bod ‘na gyfnod lle mae’n rhaid i’r llywodraeth gamu mewn a stopio hyn.”