16.1 C
New York
Sunday, September 21, 2025

Buy now

spot_img

Cynllun Seren yn gyrru talent ac arian dros y ffin – prifysgolion


Dydi Lleucu, 16 o Lanuwchllyn, ddim yn sicr eto pa gwrs mae hi am ei wneud.

“Wel dwi’n ystyried ‘neud cwrs celfyddydol neu lenyddol achos dyna sy’n bwysig i fi, a dwi’m yn siŵr pa gwrs eto na lle – dwi dal yn dewis.

“Ma’r lle dwi am fynd yn bwysig i fi, ‘swn i’n licio mynd i rwle Cymreig, ond dwi’n meddwl fod o’n bwysig profi rywle hollol newydd pan ry’ch chi’n ifanc hefyd.”

Yn 18 ac o’r Bala, mae Anya wedi gwneud ceisiadau i astudio’r gyfraith a Saesneg mewn prifysgolion yn Lloegr.

“O’n i’n bendant eisiau mynd i Loegr i astudio – ‘nes i ystyried rhai Cymru ar y cychwyn.

“Ond dwi isio ehangu ar y mhrofiade i, a chael blas ar systemau addysg gwahanol. Felly o’n i’n meddwl mai Lloegr fyse’r dewis gore i fi fynd i fod yn onest.”

Nid rhywbeth newydd ydy uchelgais Anya.

“O’n i bendant eisiau mynd i brifysgol, ers o’n i’n fach. O’n i wedi meddwl am ‘neud prentisiaeth neu wbeth fel yna ond ‘di o ddim rili yn y nenu i. Dwi ddim isio cymryd egwyl o addysg.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles