O Bontypridd i Ynys Môn, mae gorsafoedd radio cymunedol yn cadw cwmni a chwarae cerddoriaeth i gynulleidfa o filoedd.
Mae ‘na tua 300 ohonyn nhw ledled y Deyrnas Unedig, a phob un yn chwarae rôl ‘hynod’ yn ôl Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddiol yng Nghymru i Ofcom.
“Mae naw ohonyn nhw yng Nghymru, ac wyth ohonyn nhw, yn ddiddorol iawn, ag ymrwymiadau rhaglenni iaith Gymraeg,” eglurai.
“Mae’r gorsafoedd yn cael eu rheoli a’u rhedeg gan bobl leol, a’r rhwydwaith o orsafoedd cymunedol wedi chwarae rhan hynod o ddiddorol yn nhirwedd radio yng Nghymru ers yn agos at 25 o flynyddoedd erbyn hyn.”