Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yn y sir yn y dyfodol.
Bwriad y cynllun newydd yw bod ffrydiau cyfrwng Saesneg yn dod i ben yn raddol fel rhan o adolygiad mwyaf o bolisi addysg y sir mewn mwy na 40 mlynedd.
O dan y drefn newydd fe fyddai’r Gymraeg yn dod yn brif iaith addysg holl blant ysgolion y sir.
Bydd y mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Addysg a’r Economi ddydd Iau, 10 Ebrill.
Bydd yn rhaid craffu ar y newidiadau arfaethedig yng nghabinet y cyngor a’r cyngor llawn cyn i unrhyw newid ddigwydd a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal hefyd.