A wnaeth ennill un o rasys ceffylau enwoca’r byd newid bywyd Hywel yn sylweddol?
“Mae e’n newid dy fywyd di yndi, yn enwedig yn Aberteifi.
“Rwy’n siopa ar ran fy mam sy’n 95 mlwydd oed, a pan af i i Tesco, yr hyn rwy’n clywed dros y lle yw ‘Celebrity on aisle five!’“
Felly, pwy mae Hywel meddwl fydd yn ennill eleni?
“Mae’r Gwyddelod wedi gwneud mor dda, ac mae’r ceffylau gorau i gyd yn Iwerddon, gwnaethon nhw ennill popeth yn Cheltenham ym mis Mawrth. Mae’r caeau yn Aintree’n grêt ar gyfer y Gwyddelod.
“Ond wna i roi dau geffyl o’r wlad yma i chi – Iroko, ceffyl J P McManus sy’n cael ei hyfforddi gan Oliver Greenall, a Kanddo Kid, ceffyl Paul Nicholls.”