Mae swyddogion mewnfudo wedi arestio 16 o weithwyr ar fferm solar ym Môn ar amheuaeth o weithio heb y ddogfennaeth angenrheidiol.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y gweithwyr wedi eu harestio yn fferm solar Porth Wen, ger Cemaes, ar 20 Mawrth.
Roedd difrod sylweddol i’r datblygiad 190 acer yn dilyn Storm Darragh ddechrau Rhagfyr, a’r gred yw bod 15,000 o baneli wedi’u torri neu eu difrodi.
Mae gwaith trwsio sylweddol yn dal i ddigwydd ar y safle.
Cadarnhaodd y Swyddfa Gartref bod hysbysiad atgyfeirio wedi ei gyflwyno i is-gontractwr sy’n gweithio ar ran EDF Renewables UK, sy’n rhedeg y safle.
Dywedodd EDF eu bod yn “trafod yn uniongyrchol gyda’u contractwyr ym Mhorth Wen i adolygu eu prosesau a sicrhau bod mesurau llymach yn eu lle”.