14.4 C
New York
Monday, September 22, 2025

Buy now

spot_img

Podlediad newydd am bêl-droed llawr gwlad gyda Andy Walton


“Dwi wedi bod wrth fy modd yn mynd o glwb i glwb a dysgu mwy am bwysigrwydd clybiau yma i’r cymunedau.

“Un peth ‘naeth fy nharo i oedd pa mor ddifrifol mae’r cefnogwyr yn cymryd y gemau ac yn trin eu clwb.

“Hefyd, pa mor bwysig yw’r gwirfoddolwyr, nid jest troi lan ar ddyddiau Sadwrn maen nhw, ond mae ‘na waith yn ystod yr wythnos o ran trefnu gyda’r tîm arall ac ati.

“Nes i gwrdd â Kim sy’n ysgrifennydd clwb Llanberis a dysgu mwy am faint y gwaith sydd ‘na yn ystod yr wythnos o ran trefnu gêm.

“Mae hi’n gorfod cysylltu gyda’r reff, trefnu nad oes kit clash gyda’r tîm arall ac ati. Heb y gwirfoddolwyr yma fase’r clybiau yma byth yn gallu cario ‘mlaen i fodoli.

“Ym Mynydd Llandygai wedyn mae un teulu mwy neu lai yn gweithio gyda’i gilydd i redeg y tîm a’r gwaith oddi ar y cae. Mae’n anhygoel,” meddai.

Un peth y sylwodd Andy hefyd yw’r to ifanc sy’n camu i’r adwy i helpu eu clybiau lleol.

“Un arall o Lanberis yw Gerallt. Mae’n ifanc ac wedi bod yn dilyn y clwb ers mae’n blentyn. Mae’n mynd i bob gêm a Llanberis yw popeth iddo. Mae o hyd yn oed wedi cael tatŵ Llanberis ar ei goes – dyna faint mae’r clwb yn ei olygu iddo,” meddai.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles