Mae’r sîn gomedi Gymraeg yn mynd o nerth i nerth, yn ôl comedïwr ifanc o Gaerffili sy’ newydd gael ei ddewis ar gyfer Comedy Lab Cymru 2025.
Mae’r cynllun yn meithrin talent newydd ym myd comedi ac mae’r comedïwr dwyieithog Harri Dobbs yn arbennig o falch o’r cyfle i greu cynnwys ar gyfer S4C.
Meddai Harri, sy’n 23 oed: “Mae’r sîn comedi Gymraeg wedi tyfu gymaint hyd yn oed ers i fi ddechrau.
“Mae pawb sy’n neud comedi yn Gymraeg mor lyfli ac mor neis pan yn cael rhywun newydd (i’r sîn).
“Mae gymaint mwy o bobl yn neud comedi Cymraeg nawr. Mae pobl yn gofyn wrtha’i am gomedi yn y Gymraeg, ‘oes na gynulleidfa?’
“Oes, mae ‘na – y gigs Cymraeg dwi’n neud yw’r rhai mwyaf. Mae pobl yn edrych amdani nhw. Mae rhyw 30 gig Saesneg yr wythnos yng Nghaerdydd.
“Ond yn y gigs Cymraeg ti’n gweld yr un wynebau bob tro ti’n mynd ac mae’n teimlo mor sbeshal ac mae’n teimlo fel bod y gynulleidfa rili ishe bod ‘na. Ti’n cael pobl o ar draws y tiers o gomedi oherwydd fod ddim gymaint yn neud e i gymharu gyda pobl sy’n neud comedi yn y Saesneg.
“Mae’n neis gweld pobl yn cysylltu drwy’r Gymraeg fel ‘na.”