Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cyn-athro Frank Letch, sydd wedi marw yn 80 oed.
Wedi ei fagu yn ardal Peckham yn nwyrain Llundain, bu’n byw yn Llanuwchllyn ac roedd yn athro Ffrangeg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Roedd bellach yn gynghorydd sir yn Nyfnaint gan gynrychioli ardal Crediton a bu hefyd yn gynghorydd tref yno.
Yng Nghymru daeth i amlygrwydd am ei bositifrwydd yn byw gydag anabledd a bu sawl rhaglen deledu amdano.
Yn y rhaglen DRYCH: Byw Heb Freichiau, a gafodd ei darlledu yn 2021, siaradodd yn agored am yr effaith o gael ei eni heb freichiau.
Ar y pryd dywedodd: “Dwi’n gobeithio fydd o’n helpu pobl i gofio be’ oeddwn i ac i bobl gael diddordeb mewn pobl sy’ efo be’ mae pawb yn galw yn ‘anabledd’.”
Yn 2015 cafodd MBE gan y frenhines am ei gyfraniad i lywodraeth leol.