Os oes yna lwybr sydd yn mynd â chi i weld golygfeydd ysblennydd yna llwybr Foel Dre yw honno, ond nid un i’r gwan galon; mae angen bod yn weddol heini i ddringo fyny ac i lawr y bryniau o gwmpas yr ardal.
Cofiwch lawr lwytho ap Darllenydd Cod Cyflym (QR Code Reader) cyn cychwyn er mwyn cael hanes yn y tirlun o’r codau cyflym sydd ar byst pren ar hyd y daith.
Dechreua’r llwybr fel nifer o’r wyth llwybr ym mhentref Dinas Mawddwy ac wrth i chi ddringo drwy goed pin ar gyrion y pentref fe ddewch allan i olygfa drawiadol o Gwm Maes Glase, Cwm Cerist a phistyll Graig Wen.
Mae hanes diddorol ble bynnag yr edrychwch – pistyll Graig Wen ble cloddiwyd am blwm a lle cynhelir ras feics Redbull enwog rŵan.
Pistyll Maes Glase yw’r olygfa sy’n tynnu sylw ym mhen y cwm, gan ddisgyn i lawr sawl gris. Mae’r disgyniad tua 160 metr i gyd, sy’n golygu ei fod yr un mor dal â’r holl raeadrau eraill yng Nghymru. Mae ei gwymp sengl fwyaf yn 85 metr, a’r ail yn 34 metr. Mae hwn yn rhaeadr drawiadol iawn, dros ddwywaith yn uwch na Phistyll Rhaeadr Llanrhaeadr ym Mochnant sydd yn fwy adnabyddus.
Mae ffermdy Tyn y Braich sydd â hanes teuluol yn ymestyn dros 1,000 o flynyddoedd ac yma seiliwyd nofel Angharad Pryce, O Tyn y Gorchudd.
Datblygodd Chwarel Minllyn rhwng 1793 – 1800 gan berchennog lleol ac yna datblygodd ymhellach gan Edmund Buckley – diwydiannwr ac Aelod Seneddol o Fanceinion.
Chwarel lechi oedd hyn ac yn enwog am slabiau llechi i wneud byrddau billiards, lle tân a lloriau yn ogystal â thai bach. O’r felin roedd llethr serth i lawr i’r dyffryn islaw gyda llethr byr pellach i Reilffordd Mawddwy.
Mae Gwesty’r Buckley Arms ar yr A470 wedi ei greu o goncrit in-situ, ac fe’i hadeiladwyd yn 1873 ar gyfer Syr Edmund Buckley. Dywedir mai dyma’r adeilad concrit cyfnerth hynaf yn Ewrop a’r ail hynaf yn y byd.
Yr ochr arall i’r dyffryn mae adfail Cynywrach. Does neb wedi byw yn Cynywrach ers dros gan mlynedd.
Ganed Morgan Lewis yma yn 1821 ac yma bu’n byw gyda’i wraig Catherine.
Credwch neu beidio ganed 22 o blant i Morgan – gyda’r mwyafrif yn goroesi plentyndod.
Yn anffodus i Morgan, cafodd ddamwain ofnadwy wrth ddod adre o Bala dros Fwlch y Groes – llithrodd ei geffyl i lawr yr ochr serth gyda Morgan ar ei gefn. Torrodd Morgan ei goes a bu farw ychydig wythnosau yn ddiweddarach yn 56 mlwydd oed.