Mae cyn-Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi pledio’n euog i aflonyddu ei chyn-wraig.
Roedd Jamie Wallis, 41, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Katie Wallis, wedi’i chyhuddo o aflonyddu Rebecca Wallis yn gynharach eleni.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, newidiodd ei phle a chyfaddef i’r cyhuddiad o aflonyddu trwy anfon negeseuon a gwneud galwadau ffôn.
Hi oedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024, a’r AS cyntaf i gychwyn y broses o drawsnewid ei rhyw yn agored.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol, a bydd yn cael ei dedfrydu ar 14 Gorffennaf.