Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Sian Gwenllian, wedi cadarnhau ei bod hi hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau’r eglwys yn galw am ymchwiliad annibynnol.
“Dwi yn poeni am y sefyllfa ac mae nifer o etholwyr wedi dod ataf i yn bryderus am adroddiadau yn y wasg, honiadau, ac adroddiadau mewnol sydd hefyd wedi cyrraedd y wasg.”
“Felly dwi wedi ysgrifennu at Archesgob Cymru ac at gynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn holi nhw beth yw’r sefyllfa ac yn gofyn iddyn nhw wneud adolygiad annibynnol i’r sefyllfa.”
“Dwi ddim ar hyn o bryd yn hyderus y bydd adolygiad sy’n gwbl annibynnol o’r eglwys. Hynny sydd yn fy mhoeni i.
“Dwi”n credu, er lles yr eglwys, mae angen tryloywder llwyr, fel bod pobl yn teimlo bod pethau’n mynd i newid, bod argymhellion yn cael eu gweithredu a bod modd adfer ffydd y cyhoedd yn enw da’r gadeirlan unwaith eto.”