Mae llys wedi clywed honiad bod dyn o Abertawe wedi talu £1,500 i ffrind gyda’r bwriad o drefnu i rywun ladd ei wraig wedi i’r briodas chwalu.
Mae Paul Lewis, 54, a Dominique Saunders, 35, yn gwadu cynllwyn i lofruddio Joanne Atkinson-Lewis rhwng 28 Chwefror 2023 a 30 Ebrill 2023.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful na fu unrhyw niwed i Ms Atkinson-Lewis, oedd yn dal yn briod â Mr Lewis ddwy flynedd wedi iddyn nhw wahanu, ond bod hynny’n amherthnasol i’r cyhuddiadau.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, William Hughes, y bydd angen i’r rheithgor ystyried “a fu cytundeb troseddol rhwng y ddau ddiffynnydd ar gyfer hwyluso llofruddiaeth menyw gyda’r bwriad i hynny ddigwydd”.
Mae’r erlyniad yn dadlau bod Mr Lewis wedi codi £1,500 ym mis Mawrth 2023, bod Mr Saunders wedi talu £1,300 i’w fanc yn fuan wedyn, ac mai’r bwriad oedd trefnu rhywun i ladd Ms Atkinson-Lewis.
Roedd ymholiadau wedi datgelu ceisiadau ar-lein am wybodaeth ynghylch reifflau, meysydd saethu a chyfeiriad Ms Atkinson-Lewis.