Amy Wadge sydd wedi ysgrifennu’r geiriau i ‘Never Gonna Break Her‘, ac mae’n dweud iddi ysgrifennu “o’r galon”.
“Mae’n ymwneud ag ysbryd di-dor ein chwaraewyr, ond hefyd â phob menyw sydd erioed wedi gorfod ymladd i gael ei gweld, ei chlywed neu ei pharchu.”
Enillodd Amy Wadge wobr Grammy ar ôl cyd-weithio gydag Ed Sheeran ar y gân ‘Thinking Out Loud’, a enillodd Gân y Flwyddyn yn 2016.
Mae hi hefyd wedi ysgrifennu caneuon i artistiaid fel Alicia Keys, Camila Cabello, Kylie Minogue, Pink, James Blunt, Kacey Musgraves a Sam Ryder.
Ychwanegodd bod “gan Liss Jones lais eiconig”, a bod “pobl yn ei hadnabod o The Voice, ond rydw i wedi bod yn ymwybodol ohoni ers blynyddoedd, ac rwy’n credu mai hi yw un o’r cantorion gorau sydd gennym yng Nghymru o ran llais”.