Mae ffliw adar wedi bod yn broblem sylweddol i’r diwydiant dofednod drwy’r DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r feirws wedi lledu’n helaeth hefyd drwy adar gwyllt – gan ladd adar morol prin ar hyd arfordir Cymru, yn ogystal ag adar dwr ac adar ysglyfaethus.
Roedd ‘na saib byr y llynedd – a dathlu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd wrth i arddangoswyr ieir a thwrcwn gael dychwelyd am y tro cynta’ ers blynyddoedd.
Ond mewn ymateb i gyfres o achosion yn Lloegr, cafodd Parth Atal Ffliw Adar ei sefydlu ar draws Cymru ddiwedd Ionawr, gan arwain at fesurau bioddiogelwch llym i bawb sy’n cadw adar.
Mae ‘na waharddiad hefyd ar ddod a dofednod ynghyd mewn digwyddiadau ers mis Chwefror.
Gall dderbyn cadarnhad o ffliw adar gael oblygiadau ariannol ac emosiynol dybryd i ffermydd – gyda’r angen i ddifa’u hadar.
Yn draddodiadol mae wedi bod yn fwy o broblem yn ystod misoedd oerach y gaeaf, er bod milfeddygon yn annog pobl i fod ar eu gwyliadwraeth drwy’r flwyddyn erbyn hyn.
Mae’r achosion yma wedi dod yng nghanol cyfnod o bryder i’r diwydiant dros fygythiad posib feirws arall – y tafod glas – sy’n taro gwartheg a defaid.