Cafodd y murlun ei ddylunio gan Regan Gilflin, artist sydd yn aml yn ymdrin â hunaniaeth a diwylliant ac yn tynnu sylw at gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli yn y gorffennol.
“Mae creu’r murlun yma wedi bod yn daith anhygoel”, meddai.
“Dwi’n caru pêl-droed ers pan o’n i’n fach ac mae Jess wedi cael effaith mor enfawr, nid yn unig ar y gêm, ond hefyd yn helpu i wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u gwerthfawrogi. Pob lwc Cymru!”
Mae’r murlun yn rhan o raglen ddiwylliannol swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y bencampwriaeth, ar y cyd â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Fel y murlun cyntaf o chwaraewraig bêl-droed benywaidd ar gae yn Ewrop, mae’n garreg filltir o ran gwelededd, perthyn a balchder, ac yn dangos i bob plentyn fod ganddyn nhw le yn y gêm.”