Cafodd manylion yr arian sy’n dal mewn cylchrediad neu’n cuddio mewn cartrefi eu datgelu yn dilyn ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru, i Fanc Lloegr ynghylch arian papur a’r Bathdy Brenhinol ynghylch darnau arian.
Dywedodd Banc Lloegr fod 375 miliwn o bapurau arian yn parhau mewn cylchrediad:
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tua £600m mewn hen arian papur wedi cael eu dychwelyd, gan gynnwys miliwn o bapurau £5, dwy filiwn o bapurau £10, 11 miliwn o bapurau £20 a chwe miliwn o bapurau £50.
Mae arian papur wedi’u disodli gan arian plastig, gyda chyfres o nodweddion diogelwch.
Tynnwyd y papur £5 yn ôl ym mis Mai 2017, y papur £10 ym mis Mawrth 2018, a’r papur £20 a £50 ar 30 Medi 2022, ac ers hynny nid ydynt wedi bod yn ddull talu cyfreithiol.