Mae’r gemau yn cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn ac yn cynnwys bob math o feysydd chwaraeon o golf i badminton, nofio a rhwyfo.
Ond gyda merched Cymru ar fin dechrau eu hymgyrch yn Swistir ym mhencampwriaeth yr Ewros, mae cryn sylw ar bêl-droed merched, a charfan Môn yn edrych ‘mlaen at yr her.
Yn 18 oed, dyma fydd y tro cyntaf i Seren Mcdonald o Fôn deithio draw i’r gemau a chynrychioli’r Ynys.
“Mae’n fraint inni fel genod, imi fel hogan sydd newydd droi yn 18, dwi’n excited iawn i gynrychioli Ynys fi,” meddai.
“Dwi’n prowd iawn i ddod o Ynys Môn a siarad Cymraeg.”