18.5 C
New York
Friday, August 8, 2025

Buy now

spot_img

Drakeford yn galw am dreth cyfoeth a dileu y cap dau blentyn


Cyn y tro pedol ar fudd-daliadau, roedd llywodraeth Lafur y DU yn ystyried codi’r cap budd-dal dau blentyn.

Mae’r polisi’n cyfyngu budd-daliadau i uchafswm o ddau o blant fesul teulu, i’r rhai a anwyd ar ôl Ebrill 2017.

Mae amcangyfrif y byddai dileu’r polisi yn costio tua £3.4bn y flwyddyn i’r llywodraeth ac y byddai’n codi 500,000 o blant allan o dlodi cymharol.

Mae awydd mawr i godi’r cap ymhlith llawer o aelodau’r Blaid Lafur, yn enwedig y rhai wnaeth wrthwynebu’r toriadau arfaethedig i lesiant.

Dywedodd Mr Drakeford: “Rwy’n credu bod lleihau tlodi plant yn ddyletswydd foesol i lywodraeth Lafur.

“Er mor anodd yw’r amgylchiadau… dydw i ddim yn credu bod unrhyw aelod o’r Blaid Lafur yn y Senedd neu DÅ·;’r Cyffredin sydd ddim eisiau gweld tlodi plant yn gostwng dros dymor y Senedd hon.

“Ac rydyn ni’n gwybod mai’r peth mwyaf effeithiol y gallwn ni wneud i fynd i’r afael â thlodi plant yw diddymu’r terfyn dau blentyn a gyflwynwyd gan y Torïaid.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles