Mae dyn a gafodd rybudd efallai na fyddai’n byw i droi’n 40 oed yn dilyn oedi cyn cael diagnosis canser y coluddyn yn galw am ddechrau sgrinio pobl yn gynt na’r hyn sy’n digwydd dan y drefn bresennol.
Yn 2022, yn 39 oed, roedd Mat Dean o Ben-y-bont ar Ogwr yn paratoi i gystadlu mewn sioe corfflunio, heb unrhyw syniad fod ganddo gyflwr difrifol.
“Ro’n i’n edrych yn grêt ac yn teimlo’n grêt ar y pryd. Doedd dim clem bod tiwmor tu mewn i mi fyddai’n ceisio fy lladd,” dywedodd.
Bu’n rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth ers hynny wedi i’r canser ledu i’w bledren a’i afu, ond mae’n teimlo’n “ffodus” ei fod yn fyw ac mewn sefyllfa i godi ymwybyddiaeth.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn canllawiau sgrinio’r DU.