Fel allai rhywun ddychmygu, wedi nifer o flynyddoedd wrth y llyw, mae ‘na sawl stori ddigri yn dod i’r cof, a Cledwyn yn barod i rannu rhai yn fwy nag eraill.
“Mae ‘na sawl stori, rhai allai ddim eu hadrodd, ac eraill allai siansio.
“Un o’r straeon gorau, a dwi’n gobeithio neith bobol faddau i fi am ddweud hon.
“Roedd yr Eisteddfod yn y de, ac roedd ‘na ddwy ddynes mewn oed wedi bod mewn cyngerdd yn sefyll yn y ganolfan groeso, ac roedd ‘na dacsi fod eu hol nhw.”
“Roedd hi wedi hanner nos a dyma ni’n mynd draw atyn nhw a sôn ‘ydach chi’n oce?’ a dyma nhw’n dweud ‘o ydan, ma’ ‘na dacsi yn ein hol ni’.
“Wel ydy e’n hwyr?’ medden i, ‘wel ydi’ medden nhw. ‘Ydych chi’n siŵr ei fod e’n dod i hol chi?’, ‘Wel ydyn, ni’n dibynnu arno fo’.”
“Wel gwrandwch medde fi, peidiwch a bod yn wirion mae gen i bunkabin yn fan ‘cw a dyna lle dwi’n cysgu, ac mae ‘na ddigon i le i chi gysgu fan ‘na a dwi’n dweud wrthoch chi, dwi mor flinedig fyddai wedi cysgu’n syth bin’ medde fe.
“A dyma’r ddynes yma, ma’n rhaid bod hi yn ei 80au neu 90au, ac fe ddwedodd hi ‘drych fy nghariad i, os fysen i yn y cabin ‘na, fydde ti ddim yn cysgu dim.”