Mae’r maes gwersylla yn rhan o safle’r Eisteddfod, rhwng Maes yr Eisteddfod ac Arena Maes B.
“Rhyw fan canol, achos yn amlwg mae’r Eisteddfod fel gŵyl mor unigryw, lle mae’n gorfod darparu i ystod eang o bobl, o blant i bobl sydd yn eu harddegau, i fy rhieni a thu hwnt,” meddai Tomos Lynch.
“Dwi’n meddwl pan ti yn dy ugeiniau, dy dridegau, ti wedi arfer mynd i’r Dyn Gwyrdd, ro’n i yn Sesiwn Fawr eleni, ac mae’n bwysig bod ti’n teimlo fel dy fod yn perthyn i’r lle, achos nid pawb sydd am aros mewn carafan gyda’u rhieni.”
Mae’r adborth wedi bod yn bwysig, yn ôl Tomos, ac fe wnaeth ef a gweddill criw Maes B gynnal sesiynau ar draws Cymru i gasglu barn pobl.
“Naethon ni gynnal gweithdai yng Nghaerdydd, Aberystwyth, yn y gogledd, efo cymysgedd o fyfyrwyr, disgyblion, pobl ifanc yn eu hugeiniaiu a’u treidegau, so dwi’n gobeithio na ffrwyth llafur hynny i gyd ydy hyn.”