
Mae Phil Parkinson yn paratoi ar gyfer ei bumed tymor fel rheolwr Wrecsam
Bydd Wrecsam yn chwarae yn yr ail haen am y tro cyntaf ers 1981-82 ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw wynebu Southampton yn y Bencampwriaeth.
Ar ôl sicrhau dyrchafiad dair blynedd yn olynol, beth all cefnogwyr tîm Phil Parkinson ei ddisgwyl y tymor yma?
Beth yw’r disgwyliadau?
Mae Wrecsam wedi mynd o nerth i nerth ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb yn y Gynghrair Genedlaethol ychydig dros bedair blynedd yn ôl.
Mae eu gwariant yr haf hwn – gyda mwy i ddod – yn cefnogi’r awgrym eu bod yn anelu at ddyrchafiad gymharol sydyn i’r Uwch Gynghrair.
Ond hefyd, mae ymwybyddiaeth eu bod nhw’n cymryd cam enfawr i fyny y tro hwn – gyda llawer o’u gwrthwynebwyr yn cael cefnogaeth ariannol gryf iawn.

Prynodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds Wrecsam pan oedd y clwb yn y Gynghrair Genedlaethol
Beth yw prif gryfderau’r tîm?
Mae’r clwb wedi arwyddo chwaraewyr gyda phrofiad o chwarae yn y Bencampwriaeth – Lewis O’Brien, Ryan Hardie a Josh Windass – yn ogystal â rhai gyda phrofiad rhyngwladol fel Conor Coady, Danny Ward, Liberato Cacace a Kieffer Moore.
Dylen nhw fod â’r dyfnder i fod yn gystadleuol. Ond mae Phil Parkinson hefyd yn gwybod pa mor anodd yw’r Bencampwriaeth.
Os gall unrhyw un lywio’r clwb trwy gyfnodau anoddach y tymor hwn, Parkinson yw’r dyn.
A beth yw’r gwendidau?
Gallai fod yn anodd dod â’r holl chwaraewyr hynny at ei gilydd a ffurfio uned.
Mae Parkinson wedi gwneud gwaith da o esblygu ei garfan wrth gynnal cytgord ymhlith ei chwaraewyr wrth iddyn nhw symud i fyny’r cynghreiriau.
Ond bydd newidiadau’r haf hwn yn profi’r sgiliau rheoli hynny yn fwy nag erioed.
Bydd safon y gwrthwynebwyr yn wythnosol yn sylweddol uwch na’r hyn a wynebodd y garfan y tymor diwethaf hefyd.

Mae ymosodwr Cymru Kieffer Moore yn un o wyth chwaraewr sydd wedi ymuno â Wrecsam yr haf hwn
Pwy allai wneud gwahaniaeth?
Dewiswch o blith y chwaraewyr trawiadol.
Bydd chwaraewyr fel Windass a Hardie yn ychwanegu creadigrwydd a goliau ond gallai Coady ac O’Brien chwarae rolau allweddol ar y cae ac oddi arno – dau chwaraewr rhagorol ar y lefel yma a all helpu i feithrin ysbryd tîm cryf.
Mae cynnyrch yr academi, Max Cleworth, wedi bod yn rhan enfawr o lwyddiant diweddar Wrecsam ac mae wedi cael ei awgrymu’n rheolaidd y bydd yn disgleirio ar lefel y Bencampwriaeth. Y tymor hwn, bydd yn cael ei gyfle i wneud hynny.
Bydd y clwb yn arwyddo mwy?
Bydd y clwb yn sicr o fod yn weithgar yng nghyfnodau olaf ffenestr drosglwyddo’r haf.
Mae’r Dreigiau Coch eisoes wedi recriwtio wyth chwaraewr cyn y daith i Stadiwm St Mary’s tra eu bod hefyd wedi cael eu cysylltu â symudiadau am chwaraewyr Cymru Nathan Broadhead a Lewis Koumas a Sivert Mannsverk o Ajax.
Ond bydd angen i bobl adael y clwb hefyd.
Yn barod, mae Paul Mullin wedi ymuno â Wigan Athletic ar fenthyg – gyda Mo Faal yn symud i Port Vale ar fenthyg wythnos yma hefyd.
Mae’r cefnwr chwith Jacob Mendy yn denu diddordeb gan glybiau eraill tra bod yr ymosodwr Ollie Palmer yn debygol o adael dros yr wythnosau nesaf.
Sut mae Parkinson yn teimlo?
“Llwyddiant i Wrecsam yw, erbyn diwedd y tymor, ein bod wedi parhau i gynrychioli’r clwb pêl-droed gwych hwn yn y ffordd yr ydym wedi gwneud dros y pedair blynedd diwethaf,” dywedodd Parkinson.
“Os gwnawn ni hynny, byddaf yn falch iawn a byddwn yn gweld ble mae hynny’n mynd â ni.”
Mae’n amlwg nad yw Phil Parkinson eisiau rhoi unrhyw bwysau ar ei chwaraewyr.
Ond yn breifat, mae’n ymddangos bod y clwb yn anelu at ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn y ddwy flynedd nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.