21.8 C
New York
Monday, August 11, 2025

Buy now

spot_img

‘Ti’n gallu bod reit vulnerable yn siarad Cymraeg’


Mae’n dweud ei bod wedi dod i sylweddoli nad oes rhaid i bob gair fod yn Gymraeg mewn sgwrs ac mai dyna yw’r realiti i nifer o siaradwyr iaith gyntaf. Wrth i’r wythnosau fynd heibio ers gorffen y cwrs mae hi’n gweld ei hyder yn pylu.

“Os dwi’n stressed neu’n rili prysur weithiau dwi’n dweud ‘na, dwi methu siarad Cymraeg’,” meddai.

“Ac wedyn weithiau os ydi’r cwsmeriaid yn siarad efo’i gilydd dwi’n clywed nhw ac maen nhw’n defnyddio geiriau Saesneg hefyd fel fitting, neu seamstress ac wedyn dwi’n meddwl ‘pam neshi ddim siarad Cymraeg a dweud y gair Saesneg’.”

I Esther, mae ei pherthynas gyda’i hiaith wedi newid yn llwyr.

Mae hi bellach yn siarad Cymraeg bob dydd – gyda’i phlant, yn ei busnes, a gyda rhieni plant eraill roedd hi’n arfer siarad Saesneg gyda nhw.

A’r ddealltwriaeth seicolegol o ddefnyddio iaith sydd wedi bod yn help iddi hi, meddai, oherwydd nid diffyg geirfa a gramadeg ydi’r rhwystr i nifer o bobl.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles