Yn optometrydd ac yn ffotograffydd rhan-amser, penderfynodd Sarah ofyn am Xonvea.
Cafodd bresgripsiwn am y cyffur am bythefnos ar y tro, ac roedd yn fwy effeithiol na meddyginiaethau eraill.
Ond roedd hi’n anodd cael gafael arno meddai, a’i gŵr wedi gorfod gyrru hyd at 100 milltir i’w nôl.
“Byddwn i’n chwydu, felly byddai’n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i’m cludo i’w nôl,” ychwanegodd.
Dywedodd Sarah hefyd y bu’n rhaid i’w gŵr ffonio ambiwlans ar ôl dod adref a’i gweld hi ar y llawr yn chwydu, yn methu symud oherwydd y boen.
Ar ôl bod yn feichiog am naw wythnos, dywedodd meddyg wrthi nad oedd ei chorff yn ymdopi.
“Dywedodd, ar ei waetha’, dim ond saith mis o hyn rydych chi’n ei wynebu.
“Meddyliais fy mod i’n mynd i farw, alla i ddim parhau fel hyn am saith mis arall,” meddai Sarah.
Penderfynodd hi a’i gŵr i derfynu’r beichiogrwydd, er gwaetha’r ffaith bod y ddau wedi dymuno cael plentyn arall.