Mae teulu cwpl fu farw ar ôl i yrrwr yn ei 80au golli rheolaeth o’i gerbyd wedi galw am “fesurau diogelwch a rheolau llymach” i yrwyr hŷn.
Bu farw Stephen a Katherine Burch, 65, ym Miwmares yn Awst 2024, pan wnaeth car a oedd yn cael ei yrru gan John Pickering, 81, eu taro.
Fe wnaeth Mr Pickering, a fu farw hefyd yn y digwyddiad, “wasgu ar y sbardun yn hytrach na’r brêc”, gan achosi cyflymder ei gar i gynyddu o 25mya i 55mya yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad.
Daw’r alwad wrth i Lywodraeth y DU ystyried gwahardd gyrwyr dros 70 rhag gyrru os ydyn nhw’n methu prawf llygaid angenrheidiol.