Mae tymereddau dros 30 gradd selsiws wedi eu cofnodi yng Nghymru wrth i rannau o’r wlad fynd trwy’r drydedd don wres eleni.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi awgrymu’r posibilrwydd taw dydd Mawrth fyddai’r diwrnod poethaf yng Nghymru hyd yn hyn eleni, gan ddarogan tymheredd o 33° yn Sir Fynwy.
Roedd y gwres ym Mharc Bute, Caerdydd ar un cyfnod yn 32.8⁰ – ychydig yn is na’r 33.1° a gafodd ei gofnodi yno ar 12 Gorffennaf, sef y tymheredd uchaf i gael ei gofnodi yng Nghymru hyd yn hyn eleni.
Roedd yr arbenigwyr hefyd wedi darogan tymheredd o 30° yng Nghhaerfyrddin, 29° yn Aberystwyth a 28° yn Y Drenewydd, Caernarfon a Wrecsam.
Mae disgwyl tymereddau mwy cymhedrol, er yn dal yn gynnes, erbyn dydd Iau, ond mae ton wres arall yn bosib i rannau o Gymru dros y penwythnos.
Bu’n rhaid gohirio digwyddiadau a chanslo gwasanaethau trafnidiaeth ym mis Gorffennaf oherwydd gwres llethol, ond tywydd “anarferol o wyntog” wnaeth achosi trafferthion yn y gogledd ddechrau Awst yn sgil Storm Floris.