“Dwi ddim yn gwybod be’ i ddweud os dwi’n onest, mae popeth sy’ ‘di digwydd dros y flwyddyn dwetha’ di bod yn wallgo”, medda Branwen.
“Dwi heb ymarfer rhyw lawer efo’r garfan eto, ond ma’n grêt dod mewn i’r awyrgylch yma, a dwi’n dysgu lot yma.
“Ma’ pawb mor glên, ac ma’n braf bod yn un o’r rhai ifanc yn y garfan, gyda chymaint o chwaraewyr profiadol o fy nghwmpas i.”
Dyweda Branwen ei bod yn edmygu llawer o’r merched sydd yn y garfan, gan enwi Alex Callender a Kate Williams fel esiamplau i’w dilyn: “… y ffordd maen nhw’n chwarae, yn siarad – dwi jest eisiau bod fel nhw.
“Dwi’n gobeithio y bydda i’n gallu creu dipyn o argraff ar ryw bwynt, a dwi’n trio dysgu gymaint â sy’n bosib ar hyn o bryd.”