Mae miloedd o bobl yn y gogledd heb ddŵr ar ôl i bibell fyrstio yn Sir y Fflint.
Dechreuodd y broblem yn ardal Brychdyn y penwythnos diwethaf, ac er iddi gael ei thrwsio dros dro, mae’r nam wedi dychwelyd.
Dywedodd Dŵr Cymru mai’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio ydy’r Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes-glas, Llannerch-y-môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Garden City, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.
Mae gorsafoedd llenwi poteli dŵr wedi’u sefydlu ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug ac mae poteli dŵr yn cael eu dosbarthu i gwsmeriaid bregus.