Dywedodd Roberts mai “syniad bach unigryw” yw’r llyfr ac esboniodd bod “llyfrau sticeri arfer bod yn eitha’ mawr ac roedd casglu sticeri’n eiconig”.
“Ni eisiau dod â’r traddodiad yn ôl.”
Ar ôl cwympo o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd y tymor diwethaf maen nhw bellach yn ail haen y de, y ‘Cymru South’.
Mae hynny wedi golygu cryn newid o fewn y tîm.
“Dim ond pedwar boi lleol sydd wedi aros gyda’r garfan o llynedd” meddai Roberts.
“Dechrau mis Mai doedd dim garfan a dim hyfforddwr” ychwanegodd.
“Gan fod cymaint o chwaraewyr newydd, a gan bod ni ‘di colli cysylltiad gyda’r gymuned – mae’r llyfr sticeri yma’n ffordd i’r cefnogwyr ddod i adnabod y chwaraewyr a gwella’r cysylltiadau.”