20.7 C
New York
Friday, September 26, 2025

Buy now

spot_img

Disgwyl ail gyfnod o dywydd poeth yr wythnos hon i Gymru


Mae Tony Knight, 81, yn hoffi’r tywydd poeth “cyn belled nad yw’n rhy boeth”, meddai.

“Rwy’n mynd allan bob dydd am dro, ond os yw’n rhy boeth rwy’n cerdded o gwmpas yr archfarchnadoedd ac mae’n braf,” ychwanegodd.

Yn aml, mae gan breswylwyr cartrefi gofal lai o ddewis o ran ble y gallan nhw fynd i gadw’n oer.

Yng nghartref gofal Pen-Y-Bont yn Abertyleri ym Mlaenau Gwent, maen nhw’n ceisio cadw mannau cymunedol yn oer drwy ddefnyddio system aer dymheru.

Mae Luke Griffiths o’r cartref yn dweud eu bod yn sicrhau bod preswylwyr yn cael yfed digon hefyd.

“Rydym yn meddwl ymlaen llaw, rydym yn monitro faint o hylif mae ein preswylwyr yn ei gymryd, rydym yn gosod targedau hylif ar gyfer pob preswylydd, rydym yn annog seibiannau rheolaidd i aelodau ein staff hefyd ac rydym yn sicrhau bod yr awyru’n gywir yn yr adeilad.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles