21.2 C
New York
Tuesday, September 23, 2025

Buy now

spot_img

Achosion o danau gwyllt ar draws Cymru


Mae gwasanaethau tân wedi bod yn brwydro sawl tân gwyllt ar draws Cymru.

Fe gafodd swyddogion tân eu galw i Henllys, Cwmbrân am 9:28 bore dydd Sadwrn ac mae criwiau tân dal yno.

Ddim yn bell o’r ardal honno mae tân arall yn llosgi ar fynydd yng nghoedwig Cwm Carn yn y De Ddwyrain.

Fe gafodd y gwasanaeth tân wybod am y digwyddiad hwnnw am 11:08 bore dydd Sadwrn ac mae criwiau’n dal i frwydro’r fflamau y prynhawn yma hefyd.

Mae Gasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n delio â digwyddiad arall ar bwys Llyn Syfaddan a ddechreuodd tua 14:19 ddydd Sadwrn.

Yn ogystal, mae yna adroddiadau am gyfres o dannau gwair yn ardal y Gŵyr a Phont-y-pŵl.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles