Mae’r geiriau ‘prawfddarllen’ a ‘camsillafiad’ yn rhywbeth y mae geiriadurwyr yn dod ar eu traws yn gyson ond newydd gael eu cynnwys yn y Geiriadur y maen nhw.
Yn y llyfr Termau Cyfrifiadureg yn 1986 mae’r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o ‘prawfddarllen’ ond fe ymddangosodd y gair ‘camsillafiad’ gyntaf yn 1911 yn Y Beirniad a oedd yn cael ei olygu gan yr ysgolhaig John Morris-Jones.
Geiriau eraill sydd wedi’u hychwanegu yn ddiweddar yw geiriau sydd â chysylltiad cyfrifiadurol – yn eu plith ‘seiberdrosedd’, ‘e-drosedd’, a ‘cofbin’.
Yn Y Cymro yn 2011 y mae’r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o ‘seibrdrosedd’, ar-lein yn 2004 yr oedd yr enghraifft gyntaf o ‘e-drosedd’ ac fe ymddangosodd y gair ‘cofbin’ gyntaf yn Clonc – papur bro ardal Llanbedr Pont Steffan.
Mae tîm Geiriadur Prifysgol Cymru yn pwysleisio ei bod hi’n bosib bod gair yn bodoli ynghynt na sy’n cael ei nodi ond bod eu tystiolaeth nhw yn seiliedig ar wybodaeth o lyfrau, cynnwys miloedd o slipiau sydd wedi cael eu casglu ar hyd y blynyddoedd a bellach deunyddiau dibynadwy ar-lein.