Ar draws Cymru gyfan roedd llai o arholiadau wedi cael eu sefyll yn 2025 o’i gymharu â 2024.
Ar gyfer pwnc Cymraeg iaith gyntaf, fe wnaeth llai o ddisgyblion sicrhau gradd A*-C eleni, ond roedd cynnydd bychan o ran Cymraeg ail iaith.
Roedd gwelliant bychan hefyd ar gyfer pwnc Saesneg, tra bod Mathemateg a Rhifedd wedi aros ar lefel debyg i 2024.
Ymysg y pynciau sydd wedi gweld llai yn sefyll arholiadau eleni mae Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Gorfforol.
Ar y pen arall, mae’r nifer fu’n astudio ieithoedd tramor fel Ffrangeg a Sbaeneg wedi cynyddu.
Roedd 22,695 wedi gwneud y Fagloriaeth Gymreig – 98% o’r rheiny wedi sicrhau’r cymhwyster, a 87.2% wedi cael gradd A*-C.