Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn dweud bod gweithwyr rheilffordd wedi bod yn eu helpu ymateb i dân mawr ar lethrau ger Blaenau Ffestiniog.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad toc cyn 16:50 brynhawn Iau.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth fod y fflamau wedi lledaenu dros ardal 3,000 o fetrau sgwâr mewn maint, a bod dau griw tân a cherbydau a swyddogion arbenigol yn rhan o’r ymateb.
Ychwanegodd y llefarydd fod gweithwyr Rheilffordd Ffestiniog wedi bod yn defnyddio un o’u tanceri dŵr wrth gefnogi’r gwaith o daclo’r fflamau.