Fe gytunodd y cyngor sir i roi prydles yr adeilad i’r gwirfoddolwyr am 21 mlynedd, ac mae trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd ynglÅ·n â beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Mae’r gwirfoddolwyr, gan weithio mewn parau, yn cynnal a chadw a chloi’r toiledau yn eu tro – gyda phob person yn barod i weithio un wythnos ymhob deg.
Mae’r costau cynnal a chadw o thua £1,500 yn cael eu talu drwy gyfuniad o grantiau gan Gyngor Sir Ddinbych, y cyngor cymuned lleol, yn ogystal â rhoddion o ddigwyddiadau lleol a blwch codi arian y tu allan i’r safle.
Yn ddiweddar mae’r arian sy’n cael ei gasglu yn y blwch hwnnw wedi cynyddu, a hynny ers i wyres David Robinson, Gwenllian Roberts, ysgrifennu cerdd fach sy’n cael ei dangos y tu mewn i doiledau’r dynion a’r merched.
“Mae faint o arian ‘da ni’n ei dderbyn wedi bron a dyblu ers i ni ddechrau arddangos y gerdd,” meddai Gwenllian, 11 oed.