16.9 C
New York
Saturday, September 20, 2025

Buy now

spot_img

Sioe Cyffylliog a Bontuchel yn dathlu hanner canrif


Er nad oedd fawr o bwyllgor pan drefnwyd y sioe gyntaf, galwyd am bwyllgor agored er mwyn gweld faint o ddiddordeb oedd yna ar gyfer trefniadau’r ail sioe.

“Mi ddoth yna tua 20 o bobl a ddaru’r 20 fynd ar y pwyllgor, ond cofiwch chi, ‘dan ni ‘di mynd lawr ‘wan i hanner dwsin, mae pethe wedi newid yn arw dros hanner can mlynedd.”

Ond yn ôl Emrys, mae chwech diwyd yn gallu bod yn fwy effeithlon na phwyllgor mawr. Dywed hefyd fod y sioe wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf diolch i waed ifanc a gweithgar.

“‘Dan i’n lwcus iawn o hogia’ ifanc y ffermydd yma. Fasa wedi darfod hebddyn nhw i roi y corlannau defaid i fyny a tasau i’r ceffylau ac i drefnu polion a phethau felly. Hefyd, pobl fel Elin ein hysgrifenyddes, mae hi wedi cael babi cwta fis yn ôl ac yn dal i drefnu!

“Mae’r sioe wedi tyfu’n arw. Dros hanner can mlynedd mae’r swyddogion wedi mynd yn hÅ·n felly mae’r rhai ifanc ar y pwyllgor wedi rhoi bywyd newydd i’r sioe ac mae fel tasa hi wedi ailgychwyn eto a wedi dod ‘nôl yn gryfach.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles