Wedi byw yn Hong Kong ers 22 mlynedd, mae’r cyflwynydd Beks yn cydnabod fod dychwelyd i Gymru yn brofiad emosiynol iawn iddi bob tro.
Ond mae dod yn ôl i’w mamwlad eleni wedi bod yn arbennig o emosiynol gan bod ei ffrind, y cerddor Almaenig Felix Klieser, yn chwarae cyngerdd ym Machynlleth nos Sadwrn gyda Beks, neu Rebekah James, yno i’w gefnogi.
Mae cyfarfod y chwaraewr corn Ffrengig, sy’ wedi chwarae gyda cerddorfeydd dros y byd, wedi ysbrydoli y cyflwynydd oedd yn wyneb cyfarwydd ar S4C yn y 1990au.
Mae’r stori’n cychwyn ym mis Ebrill eleni pan welodd Beks boster wrth gerdded drwy orsaf drên yn Hong Kong, fel mae’n esbonio: “Welais i boster am gyngerdd Mozart horn concertos gyda Felix Klieser yn unawdydd yn chwarae gyda cerddorfa.
“O’n i ddim wedi clywed am Felix ond ‘nes i googlo fe a darganfod bod ddim breichiau gyda fe. So waw – o’n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Es i i’r gyngerdd a ‘nath e chwarae awr a hanner o gerddoriaeth.
“Mae wedi chwarae yn yr Albert Hall a Proms y BBC ac wedi ennill gwobrau diri.”