Ychwanegodd Rory Francis, cadeirydd Cymdeithas Eryri: “Mae pobl wastad yn dweud wrthon ni na ddylen ni orfod treulio cymaint o amser yn glanhau ar y mynydd.
“Byddai cynllun dychwelyd yn newid y ffordd ‘da ni’n meddwl am eitemau un-tro.
“Ar hyn o bryd mae cwmnïau diodydd yn disgwyl i bobl fel ni fod yn gymorth drwy godi eu sbwriel nhw, ond gobeithio gall y cynllun yma newid hynny.”
Ond mae ymgyrchwyr yn cydnabod fod sbwriel ar Yr Wyddfa yn broblem gymhleth, ac nad yw’n debygol o gael ei datrys gan lywodraethau neu gwmnïau diodydd yn unig.
Dywedodd Etta Morgan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae newid hir dymor yn ddibynnol ar weithredoedd pob unigolyn sy’n ymweld â’r ardal.
“Rydyn ni’n annog pob ymwelydd i gymryd cyfrifoldeb personol am eu heffaith ar yr ardal drwy sicrhau eu bod yn mynd ag unrhyw sbwriel adref gyda nhw, yn parchu cymunedau lleol ac yn helpu sicrhau fod Yr Wyddfa yn parhau i fod yn amgylchedd diogel a chynaliadwy.”