24.9 C
New York
Saturday, September 20, 2025

Buy now

spot_img

Cwpan Rygbi’r Byd: Yr Alban 38-8 Cymru


Roedd yna sgrym i’r Alban ar ddechrau’r ail hanner wedi camgymeriadau gan Gymru – ac yn fuan wedyn cais arall gan Francesca McGhie ac wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 24-8 a’r Alban wedi sicrhau pwynt bonws

Wedi 47 munud Abbie Fleming a Carys Cox ac yna Carys Phillips, Maisie Davies a Sisilia Tuipulotu yn dod ymlaen i Gymru wrth i’r ystadegau nodi bod yr Alban wedi cael 66% o’r meddiant yn yr hanner cyntaf.

Ond roedd Cymru yn ei chael hi’n anodd eto yn yr ail hanner i ffrwyno momentwm yr Albanwyr er i Tuipulotu atal cais arall.

Roedd yna hefyd ergyd arall i’r cochion wedi i Gwen Crabb gael cerdyn melyn wedi tacl uchel ar Elliann Clarke ond ni fanteisiodd yr Albanwyr ar hynny.

Er hynny wedi 63 munud fe wnaeth Yr Alban selio’r fuddugoliaeth wedi i Evie Gallagher groesi, ac wedi i Helen Nelson drosi roedd y sgôr yn 31-8.

Cyn diwedd y gêm cais arall i’r Alban (Emma Orr) – braidd yn ddadleuol y tro hwn – y sgôr terfynol felly wedi trosiad llwyddiannus oedd 38-8 a’r Albanwyr yn dathlu wedi perfformiad ysgubol.

Fe fydd Cymru yn wynebu Canada ym Manceinion ddydd Sadwrn 30 Awst yn eu gêm nesaf yng ngrŵp B, cyn herio Fiji yng Nghaerwysg ddydd Sadwrn 6 Medi.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles