Mae clwb pêl-droed, sy’n chwarae ym mhumed haen Cymru yn Ynys Môn, wedi sicrhau nawdd gan gwmni ariannol byd-enwog.
Enw’r lle hiraf yng Nghymru ydy Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ac mae’r enw wedi gwneud y pentref ger y Fenai yn enwog.
Ond rŵan, diolch i gytundeb newydd, bydd crysau clwb pêl-droed Llanfairpwll yn dangos logo cwmni Mastercard.
Mae’r clwb pêl-droed lleol wedi sicrhau nawdd am y tair blynedd nesaf a dywedodd Samantha Jones-Smith, cadeirydd clwb Llanfairpwll, fod Mastercard yn “buddsoddi yn ein dyfodol, ein cyfleusterau, ac yn bwysicaf oll, ein cefnogwyr”.
Dywedodd Mastercard eu bod “wrth ein boddau yn cael cydweithio â Chlwb Pêl-droed Llanfairpwll ac ymuno â’r gymuned bêl-droed anhygoel hon”.