Bydd yr Eisteddfod nesaf yn ceisio “adeiladu ar lwyddiant ysgubol” prifwyl Wrecsam, medd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Mae prifwyl 2026 am fod yn “gwbl unigryw” gan ei fod yn cwmpasu Sir Benfro, gogledd Sir Gâr a de Ceredigion, meddai John Davies.
Dywedodd Mr Davies fod yr Eisteddfod eleni “wedi llwyddo mewn tirwedd ddiwylliannol wahanol” i’r hyn fydd yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf yn Sir Benfro.
Ychwanegodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, ei bod yn “hapus iawn” gyda sut mae pethau wedi mynd yn Wrecsam.
Dywedodd bod elfennau o raglen y brifwyl nesaf “eisoes ar waith”.