“Fi oedd yn trefnu pa ffordd oeddan ni’n mynd, fi oedd yn gweithio allan y speeds, fi oedd yn deud ‘reit da ni’n gorfod stopio fan’ma am fuel’ – yn llythrennol roedd bob dim yn disgyn arna fi cyn sign off y capten.
“Dwi wedi navigatio llongau o Awstralia, Japan, Qatar a thrwy piracy areas i’r de o’r Aifft. Dwi wedi bod yr unig hogan allan o 34 o ddynion am bedwar mis.”
Er ei bod yn berson cryf, trallod personol wnaeth ei harwain i roi gorau i’w swydd cyn ymuno â thîm Gwylwyr y Glannau.
Eglurai: “Wnes i golli hogan bach yn stillborn pan o’n i wedi mynd 36 wythnos felly es i ddim yn ôl i gwaith wedyn achos ‘mod i’n ffeindio fo reit anodd, ond wedyn ges i Macsen ac yna Celt a dwi mor ffodus ein bod ni wedi eu cael nhw.”
Dair blynedd yn ôl, derbyniodd Laura gnoc ar y drws gan swyddog gorsaf Gwylwyr y Glannau Cricieth a wyddai am ei chefndir ar y môr yn gofyn a fyddai’n ystyried ymuno â’r tîm.
Mae’r tîm yn gwasanaethu ardal eang o Bermo i Abersoch ac yn derbyn galwadau gan amlaf i Gricieth a Phorthmadog. Gall y galwadau fod ar lwybr yr arfordir, ar lan y môr, harbwr neu ochr clogwyn.
“Dwi on call 24 awr y dydd. Fedri di fod yn ista yn byta cinio dydd Sul neu ar day out efo teulu pan ti’n cael galwad.”